"Health is the greatest possession. Contentment is the greatest treasure. Confidence is the greatest friend. Non being is the greatest joy."
- Lao Tzu
Mathau o Driniaethau
Rydyn ni’n falch o allu cynnig yr ystod ganlynol o driniaethau.
Er mwyn creu cynllun triniaeth personol, cynhelir ymgynghoriad 15 munud AM DDIM.
Aciwbigo Tsieineaidd Traddodiadol (ATT)
Aciwbigo 5-Elfen
Technegau eraill
(heb ddefnyddio nodwyddau)
Cwpanu
Mae cwpanu’n galluogi gwella – mae’n rhyddhau gwenwynau a gwella cylchrediad y gwaed i hyrwyddo gwellhad.
Mocsilosgi
Mocsilosgi yw defnyddio gwres ar bwyntiau allweddol y corff i wella llif Qi a’r gwaed i adfer balans y corff.
Gua sha
Mae Gua sha yn ddewis arall yn lle cwpanu ac mae’n helpu i waredu rhwystrau.
Tui Na
Tui Na - ffurf hynafol Tsieineaidd o dylino.
Beth yw aciwbigo?
Ffurf draddodiadol Tsieineaidd o feddyginiaeth yw Aciwbigo. Sefydlwyd hwn bron i 2000 o flynyddoedd yn ôl. Mae’n dal i gael ei fireinio hyd heddiw er mwyn gallu trin cyflyrau modern. Mae Aciwbigo wedi’i seilio ar y gred yn y llif egni o’r enw Qi (yngenir fel tshi). Pan nad yw eich system mewn balans, gall ddatblygu salwch neu anawsterau. Mae aciwbigo yn defnyddio nodwyddau tenau iawn mewn mannau gwahanol o’r corff i adfer
y balans ac i helpu Qi i lifo’n naturiol ac yn rhwydd.
Cyflyrau y gellir eu trin?
Gall aciwbigo drin a helpu ystod eang o afiechydon. Bydd rhai cleifion yn cael aciwbigo ar gyfer salwch neu anaf penodol (gweler y rhestr).
Trwy ymgynghori, gall Aciwbigo Balans hefyd helpu i ganfod triniaethau addas ar gyfer cyflyrau eraill.
I weld y taflenni ffeithiau ar y cyflyrau isod, ewch i https://acupuncture.org.uk/about-acupuncture/_fact-sheets
Acne
Rhineitis Alergaidd
Gorbryder
Arrhythmias a Methiant y Galon
Y Fogfa
Poen Cefn
Parlys Bell
Gofal Canser
Syndrom twnnel Carpal
Genedigaeth
Syndrom gorflinder cronig
Annwyd a Ffliw
COPD
Clefyd y galon goronaidd
Llid y bledren
Dementia
Deintyddiaeth
Iselder
Dysmenorrhoea
Ecsema a Soriasis
Endometriosis
Poen wyneb
Ffrwythlondeb benywaidd
Ffeibromyalgia
Ysgwydd wedi cloi
Anhwylderau'r ardal Gastroberfeddol
Cymalwst
Pen tost
Herpes
Haint HIV
Gordensiwn
Anffrwythlondeb
Anhunedd
Syndrom coluddyn llidus
IVF
Cerrig yn yr Aren
Ffrwythlondeb Gwrywaidd
Symptomau ôl y cyfnewid
Meigryn
Sglerosis gwasgaredig
Pwys a Chyfogi
Poen yn y Gwddf
Poen Newropathig
Gordewdra
Obstetreg
Osteoarthritis
Gofal lliniarol
Clefyd Parkinson's
PCOS
Poen ôl-llawdriniaeth
Anhwylder pryder ôl-trawmatig
Syndrom Cyn-mislif
Pwerperiwm
Raynaud's
Arthritis Rhewmatoid
Seiatica
Sinwsitis
Anafiadau chwaraeon
Straen
Strôc
Camddefnyddio sylweddau
Llid ar y penelin
Clefyd thyroid
Tinitws
Diabetes Math-2
Anymataliad troethol
Pendro
TREFNWCH EICH YMGYNGHORIAD FFÔN AM DDIM
Er mwyn creu cynllun triniaeth personol AM DDIM, mae Aciwbigo Balans yn cynnig ymgynghoriad 15 munud AM DDIM. Sgwrs gyda’n hymarferydd fydd hyn i sicrhau ein bod yn llunio’r driniaeth sy’n benodol i’ch anghenion chi. Cysylltwch â siwan@balansacupuncture.com i drefnu eich ymgynghoriad ffôn AM DDIM.
TRINIAETHAU
Ymgynghoriad ffôn 15 munud AM DDIM
75-90 munud: Ymgynghoriad llawn cyntaf i gynnwys triniaeth (angenrheidiol cyn triniaeth reolaidd)
45 – 60 munud: triniaeth arferol
CYNIGION PRESENNOL
Cynnig i gyflwyno - 10% i ffwrdd oddi ar bris y driniaeth gyntaf
10% i ffwrdd am gyfres o 6 sesiwn. (Rhaid talu cyn dechrau)
10fed triniaeth
AM DDIM