• Sut ddylwn i baratoi ar gyfer fy nhriniaeth aciwbigo?

    Nid oes unrhyw beth penodol sy’n rhaid i chi ei wneud cyn y driniaeth ond argymhellir eich bod yn bwyta ac yn yfed cyn y driniaeth.

  • Ydy Aciwbigo’n Ddiogel?

    Ydy, cyhyd ag y byddwch yn cael triniaeth gan aciwbigydd cymwys. Nid yn unig mae’n    ddiogel ond profwyd ei fod yn cynnig canlyniadau gwych. 

    Wrth chwilio am aciwbigydd, cofiwch wirio'r gwefan corff rheoledig (h.y. Cymdeithas Aciwbigo Brydeinig a Chyngor Aciwbigo Prydeinig) a pheidiwch â bod ofn gofyn i ymarferydd am ei gymwysterau/chymwysterau.


  • Ydy Aciwbigo’n Brifo?

    Nac ydy, mae nodwyddau aciwbigo’n hynod denau ac ni ddylid eu cymysgu gyda nodwyddau hypodermig. Mae’n bosibl y byddwch chi’n teimlo ychydig pan fydd y nodwydd yn taro Qi ond nid yw’n deimlad poenus. Byddwch chi’n teimlo eich bod yn ymlacio ac mae rhai cleientiaid hyd yn oed yn syrthio i gysgu.

  • A oes unrhyw sgil effeithiau?

    Nac oes. Weithiau’n anaml iawn, mae’n bosibl y byddwch chi’n cael clais bychan. Fodd bynnag, mae hyn dim ond lle mae’r nodwydd wedi mynd i mewn i’r croen, nid yw’n boenus. Mantais fawr aciwbigo yw ei fod yn gwbl naturiol felly ni fyddwch chi’n cael unrhyw sgil effeithiau drwg.

  • Ymhle yn fy nghorff y byddwch chi’n rhoi nodwyddau?

    Mae’n dibynnu ar y cyflwr sy’n cael ei drin. Gosodir nodwyddau mewn pwyntiau aciwbigo penodol sy’n rhedeg mewn sianeli sy’n rhedeg o’ch pen i waelod eich traed

  • Alla i gael aciwbigo os bydda i’n feichiog?

    Gallwch, mae aciwbigo’n ddiogel mewn beichiogrwydd a gall hyd yn oed leddfu cyflyrau beichiogrwydd ac ôl-eni. Fodd bynnag, gan fod rhai pwyntiau aciwbigo na ellir eu defnyddio mewn beichiogrwydd mae’n bwysig eich bod yn dweud wrth yr ymarferydd cyn y driniaeth os ydych yn feichiog.

  • Beth ddylwn i ddisgwyl o’r ymgynghoriad cyntaf?

    Yn ystod eich ymgynghoriad cyntaf, byddwn yn gofyn am eich holl hanes iechyd. Bydd yn sgwrs i helpu i ddod i’ch adnabod yn well ac yn helpu i wybod sut orau i’ch helpu chi. Bydd hyn yn help i sefydlu gwerthusiad llawn o’r cyflwr sydd angen ei drin. Byddaf yn gofyn cwestiynau i chi am eich ffordd o fyw, nid yn unig y cyflwr sydd angen ei drin. Bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys cwestiynau am eich ffordd o fyw ynghyd â chwestiynau ac atebion am y cyflwr yr ydych yn ceisio am driniaeth iddo. Bydd yr ymgynghoriad yn cymryd eich pwls, yn edrych are ich tafod a gall deimlo meridianau penodol i chwilio am fannau tyner. Gall y driniaeth gyntaf bara rhwng awr ac awr a hanner.

  • Beth os byddaf am newid dyddiad fy apwyntiad?

    Rhaid I ni gael rhybudd o 48 awr i ganslo unrhyw apwyntiad. Cofiwch ddarllen ein telerau a’n hamodau i gael mwy o wybodaeth.

Share by: