Telerau ac Amodau


Tâl

Dull o dalu yw Arian neu Gerdyn Debyd/Credyd


Dylid talu ag arian ar ddiwedd bob sesiwn. Os ydych yn bwcio bloc, disgwylir taliad rhag blaen.


Mae bwcio bloc wedi’i lunio i’w ddefnyddio’n wythnosol (1 sesiwn bob wythnos am 6 wythnos). Fodd bynnag, o dan amgylchiadau arbennig, gallwn ymestyn y pecyn. Rhaid cwblhau apwyntiadau bloc o fewn 3 mis.


Ni roddir unrhyw ad-daliadau nac ad-daliadau rhannol am unrhyw sesiynau bloc heblaw bod Aciwbigo Balans yn canslo. 


Canslo

Os bydd yn rhaid i chi ganslo eich sesiwn am ryw reswm, bydd yn rhaid i chi wneud hynny o leiaf 48 awr cyn y sesiwn. Os byddwch chi’n canslo gyda llai na 48 awr o rybudd, gellir codi tâl am y sesiwn llawn a rhaid ei dalu o fewn 7 diwrnod neu yn y sesiwn nesaf, pa un bynnag fydd gyntaf.



Os byddwch yn mynd i fod yn hwyr, rhaid i chi roi gwybod i’ch ymarferydd. Os byddwch yn cyrraedd ar ôl 15 munud i ddechrau amser eich apwyntiad, bydd yn cael ei ganslo a bydd disgwyl tâl.


Gwadiad

Mae’r cyngor a’r triniaethau a gynigir gan Aciwbigo Balans yn driniaethau cyflenwol nid yn lle barn neu driniaeth feddygol orllewinol gonfensiynol.

Yn ystod eich ymgynghoriad cyntaf, dylech hysbysu eich ymarferydd am unrhyw gyflyrau meddygol presennol a rhai’r gorffennol. Cyfrifoldeb y claf yw gwirio gyda’i feddyg a ydy’n addas i gael triniaeth aciwbigo.


GDPR

Mae Aciwbigo Balans wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich data a’ch preifatrwydd. 

Pam ein bod yn storio data personol a’r hyn fyddwn yn ei wneud ag ef?

Wrth gofrestru manylion gydag Aciwbigo Balans, mae manylion yn cael eu storio a’u prosesu am y rhesymau canlynol

·      Mae angen gwybodaeth bersonol i ddarparu’r triniaethau y gofynnir amdanyn nhw.

•    Mae darparu aciwbigo a gwasanaethau cysylltiedig yn golygu cytundeb a bydd angen bod Aciwbigo Balans yn gallu prosesu data er mwyn cyflawni hyn a darparu gwasanaethau i’r safonau a ddisgwylir gan y Cyngor Aciwbigo Prydeinig.

•          Bydd Aciwbigo Balans yn cofnodi, storio a phrosesu’r wybodaeth hon ar sail ‘Diddordeb Cyfreithlon a Meddygol’

•          Mae’n bosibl y bydd Aciwbigo Balans weithiau’n anfon taflen newyddion, cynigion a disgownt neu wybodaeth a allai fod o ddiddordeb ac o fudd i’ch iechyd a’ch lles. I wrthod caniatâd ar unrhyw adeg gallwch anfon e-bost at siwan@balansacupuncture.com


Gellir cyflwyno data personol I Aciwbigo Balans mewn nifer o ffyrdd (e-bost, post, yn bersonol drwy wefan), gan drydydd parti neu’n uniongyrchol gan y claf.



Cyfnod Dargadw:

Gofynion cadw cofnodion ymarferwyr aciwbigo yw saith mlynedd.

Storio: Cedwir yr holl gofnodion ar bapur mewn cwpwrdd dan glo a hefyd ar ddisgen galed ddiogel.


Trydydd Parti/ Darparwyr eraill:

Ni fydd eich data’n cael ei rannu gydag unrhyw drydydd parti heb ganiatâd ysgrifenedig blaenorol neu ar lafar ymlaen llaw. Dim ond y bobl ganlynol/asiantaethau canlynol fydd yn cael mynediad i’ch data :

• Siwan Watkins-Doyle (Aciwbigydd Aciwbigo Balans)

• Asiantaethau’r llywodraeth petai angen hyn i gwblhau cytundeb


Ceisiadau am Fynediad I Ddata:

Aciwbigo Balans yw perchennog yr holl gofnodion clinigol. Gellir gofyn am fynediad i wybodaeth drwy anfon e-bost at: siwan@balansacupuncture.com a chyflwyno “Cais am Fynediad I Bwnc”. Bydd Aciwbigo Balans  yn ymateb i’r cais hwn o fewn mis calendar.


Cywiro Data:

Gellir cywiro unrhyw ddata a ystyrir yn anghywir o wneud cais a bydd Aciwbigo Balans yn ymateb o fewn mis calendar.


Y Broses Gwyno:

Os bydd gennych unrhyw bryder bod Aciwbigo Balans wedi cam-drin neu wedi anwybyddu cyfrifoldebau wrth ddelio â data personol, gallwch gysylltu â’r Rheolydd Data ar siwan@balansacupuncture.com. Mae Aciwbigo Balans wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu data personol. Os na fyddwch chi’n fodlon, gallwch gysylltu’n uniongyrchol gyda’r Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth, Awdurdod Goruchwylio Gwarchodaeth Data’r DU.


Share by: